Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2025

Amser: 08.57 - 09.02
 


Preifat, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

 

Dydd Mawrth 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn:

 

 

Dydd Mercher

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2025;

o   Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025

o   Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025

 

Gofynnodd Heledd Fychan am gadarnhad y byddai'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn gwneud datganiad yn y Senedd ar ddyfodol y sector addysg drydyddol, fel y nodwyd gan y Trefnydd yn ystod Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf.

 

Cadarnhaodd y Trefnydd ei bod yn bwriadu ychwanegu'r datganiad at yr agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn 25 Tachwedd, yn amodol ar gytundeb y Cabinet.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys y busnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2025

·         Dadl Fer: Carolyn Thomas AS (Gogledd Cymru) (30 munud)



</AI6>

<AI7>

4       Pwyllgorau

</AI7>

<AI8>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Rhagfyr. 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynglŷn â chraffu ar fylchau a nodwyd gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru a Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr, a chadarnhad y Prif Weinidog y bydd yn bresennol mewn sesiwn dystiolaeth ffurfiol gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ym mis Ionawr 2026.

</AI9>

<AI10>

5       Trefniadau Cyflwyno

</AI10>

<AI11>

5.1   Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer:  

·         gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig;

·         cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor a gwelliannau i Filiau; a

·         cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad y Nadolig.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>